10 results found for: “elon_musk”.

Request time (Page generated in 0.3515 seconds.)

Elon Musk

Dyn busnes a buddsoddwr De Affricanaidd-Americanaidd yw Elon Reeve Musk. Yn Rhagfyr 2023 ef oedd person cyfoethoca'r byd, gydag amcangyfrif o werth net...

Last Update: 2023-12-23T08:29:01Z Word Count : 12025

View Rich Text Page View Plain Text Page

Neuralink

Lleolir y cwmni yn Fremont, California, ac fe'i sefydlwyd yn 2016 gan Elon Musk gyda thîm o saith gwyddonydd. Ers ei sefydlu, mae'r cwmni wedi cyflogi...

Last Update: 2023-12-22T04:28:45Z Word Count : 1380

View Rich Text Page View Plain Text Page

The Boring Company

seilwaith, gwasanaethau adeiladu twneli ac offer Americanaidd a sefydlwyd gan Elon Musk. Sefydlwyd TBC fel is-gwmni i SpaceX yn 2017, cyn iddyn nhw gael eu gwahanu...

Last Update: 2023-12-22T14:42:17Z Word Count : 1386

View Rich Text Page View Plain Text Page

Optimws (robot)

Prif Swyddog Gweithredol Elon Musk yn ystod y digwyddiad y byddai Tesla yn debygol o adeiladu prototeip erbyn 2022. Nododd Musk ei fod yn credu bod gan...

Last Update: 2024-03-02T06:26:20Z Word Count : 637

View Rich Text Page View Plain Text Page

SpaceX

Corporation, neu SpaceX, yn gwmni awyrofod a chludiant a sefydlwyd gan Elon Musk yn 2002 er mwyn gwladychu planed Mawrth drwy ddatblygu rocedi a thechnoleg...

Last Update: 2023-05-01T19:06:31Z Word Count : 295

View Rich Text Page View Plain Text Page

Hyperloop

cyhoedd a chludo nwyddau. Cyhoeddwyd y syniad gyntaf gan y dyfeisydd Elon Musk mewn papur gwyn a ryddhawyd yn 2013, lle disgrifiwyd yr Hyperloop fel...

Last Update: 2023-12-23T11:42:12Z Word Count : 543

View Rich Text Page View Plain Text Page

Falcon Heavy

cwmni awyrofod Americanaidd SpaceX, un o hoff brosiectau'r biliwnydd Elon Musk. Mae'r roced yn cynnwys silindr craidd canolig, gyda dwy roced Falcon...

Last Update: 2023-12-22T06:02:14Z Word Count : 1388

View Rich Text Page View Plain Text Page

Twitter

2020. Prynwyd y cwmni gan Elon Musk yn Hydref 2022 am $44 biliwn. Ers hynny gwnaed nifer o benderfyniadau dadleuol gan Musk yn cynnwys diswyddo canran...

Last Update: 2023-10-29T18:50:13Z Word Count : 557

View Rich Text Page View Plain Text Page

OpenAI

John Schulman, Pamela Vagata, a Wojciech Zaremba, gyda Sam Altman ac Elon Musk. Darparodd Microsoft $1 biliwn i OpenAI Global LLC a $10 biliwn pellach...

Last Update: 2023-12-23T13:58:46Z Word Count : 2910

View Rich Text Page View Plain Text Page

Tesla Energy

ar 30 Ebrill 2015, pan gyhoeddodd Prif Swyddog Gweithredol Tesla sef Elon Musk, y byddai'r cwmni'n cymhwyso'r dechnoleg batri a ddatblygodd ar gyfer...

Last Update: 2023-12-21T07:07:48Z Word Count : 2495

View Rich Text Page View Plain Text Page

Main result

Elon Musk

Dyn busnes a buddsoddwr De Affricanaidd-Americanaidd yw Elon Reeve Musk. Yn Rhagfyr 2023 ef oedd person cyfoethoca'r byd, gydag amcangyfrif o werth net o US$222 biliwn, yn ôl Bloomberg Billionaires Index, a $244 biliwn yn ôl Forbes, yn bennaf o ganlyniad i'w gwmniau Tesla a SpaceX. Ef yw sylfaenydd, cadeirydd, Prif Swyddog Gweithredol a phrif swyddog technoleg SpaceX; mae hefyd yn Brif Swyddog Gweithredol, pensaer cynnyrch a chyn-gadeirydd Tesla, Inc.; mae'n berchennog, cadeirydd a CTO o X Corp.; sylfaenydd y Boring Company a xAI; cyd-sylfaenydd Neuralink ac OpenAI a yn llywydd Sefydliad Musk. Yn aelod o deulu cyfoethog Musk De Affrica, ganed Elon yn Pretoria a mynychodd Brifysgol Pretoria am gyfnod byr cyn ymfudo i Ganada yn 18 oed, gan gaffael dinasyddiaeth trwy ei fam a aned yng Nghanada. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, aeth i Brifysgol Queen's yn Kingston yng Nghanada. Yn ddiweddarach trosglwyddodd Musk i Brifysgol Pennsylvania, a derbyniodd raddau baglor mewn economeg a ffiseg. Symudodd i Galifornia yn 1995 i fynychu Prifysgol Stanford. Fodd bynnag, rhoddodd Musk y gorau ar ôl dau ddiwrnod a, gyda'i frawd Kimbal, cyd-sefydlodd y cwmni meddalwedd ar-lein Zip2. Prynwyd y cwmni cychwynnol hwn gan Compaq am $307 miliwn ym 1999, ac yn yr un flwyddyn, cyd-sefydlodd Musk X.com, banc uniongyrchol. Unodd X.com â Confinity yn 2000 i ffurfio PayPal. Yn Hydref 2002, prynnodd eBay y cwmni bancio arlein PayPal am $1.5 biliwn, a'r un flwyddyn, gyda $100 miliwn o'r arian sefydlodd Musk SpaceX, cwmni gwasanaethau hedfan i'r gofod. Yn 2004, daeth yn fuddsoddwr cynnar yn y gwneuthurwr cerbydau trydan Tesla Motors, Inc. (Tesla, Inc. bellach). Daeth yn gadeirydd a phensaer y cynnyrch, gan gymryd swydd Prif Swyddog Gweithredol yn 2008. Yn 2006, aeth Musk ati i greu SolarCity, cwmni ynni solar a gaffaelwyd gan Tesla yn 2016 ac a newidiodd ei enw i Tesla Energy. Yn 2013, cynigiodd system gludo trenau tiwb-faciwm, cyflym. Cyd-sefydlodd OpenAI yn 2015, cwmni ymchwil deallusrwydd artiffisial dielw. Y flwyddyn ganlynol, cyd-sefydlodd Musk Neuralink - cwmni niwrodechnoleg sy'n datblygu rhyngwynebau ymennydd-cyfrifiadur - a'r Boring Company, cwmni adeiladu twneli ar gyfer y trenau tiwb-faciwm. Yn 2022, prynodd Twitter am $44 biliwn. Wedi hynny, unodd y cwmni gyda X Corp. a oedd newydd ei greu ac ailfrandio'r gwasanaeth fel X y flwyddyn ganlynol. Ym Mawrth 2023, sefydlodd xAI, cwmni deallusrwydd artiffisial. Mae Musk wedi mynegi safbwyntiau sydd wedi ei wneud yn ffigwr dadleuol, nad yw'n cydymffurfio a'r drefn na ffasiwn Beirniadwyd ef am wneud datganiadau anwyddonol a chamarweiniol am COVID-19, trawsffobia, a chamddenhonglwyd ei sylwadau yn erbyn agwedd milwriaethus Llywodraeth Israel. Mae ei berchnogaeth o Twitter wedi bod yr un mor ddadleuol, diswyddwyd nifer o weithwyr a dywedir fod y nifer o drydariadau cas wedi codi a bod gwybodaeth anghywir a diffyg gwybodaeth ar y wefan. Yn 2018, fe wnaeth Comisiwn Gwarantau a Chyfnewid yr Unol Daleithiau (SEC) ei siwio am drydar ar gam ei fod wedi sicrhau cyllid ar gyfer meddiannu Tesla yn breifat. I setlo'r achos, ymddiswyddodd Musk fel cadeirydd Tesla a thalu dirwy o $20 miliwn.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search